Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 8 Mawrth 2016
Amser: 09.06 -
10.21
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3390
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
William Powell AC (Cadeirydd) Russell George AC Bethan Jenkins AC Joyce Watson AC |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Steve George (Clerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am ymateb y deisebydd er mwyn rhoi cyfle i’r Pwyllgor nesaf ystyried y ddeiseb ymhellach.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a:
· nododd fod y Gweinidog wedi ymrwymo i ysgrifennu at y Pwyllgor eto ar ôl iddo gael cyngor gan y rhwydwaith diabetes pediatrig i Gymru gyfan:
· cytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn pam ei fod wedi dod i'r casgliad bod diagnosis prydlon unwaith y mae unigolyn yn dangos arwyddion o ddiabetes math 1 yn ddull mwy effeithiol a hefyd gofyn a fyddai ef neu ei swyddogion yn barod i gwrdd â’r deisebydd;
· cytunodd i ofyn am bapur ymchwil ar ddull pob bwrdd iechyd i brofi am ddiabetes math 1 ymysg plant a phobl ifanc; a
· chytunwyd i ofyn i’r Pwyllgor Iechyd nesaf a fyddent yn ystyried cynnwys y mater hwn ar ei flaenraglen waith ar gyfer y 5ed Cynulliad.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i:
· aros am sylwadau pellach gan y deisebydd a gofyn i’r Pwyllgor nesaf ystyried y ddeiseb ymhellach pan fydd ar gael;
· tynnu sylw’r deisebydd at y paragraff olaf yn ymateb y Gweinidog, lle mae’n awgrymu y gallent gysylltu ag awdurdodau lleol yng Nghymru i ddatblygu manteision plannu trefol a choed cymunedol a’u helpu i gyflwyno ceisiadau am gyllid at y diben hwn, yn enwedig yng nghyd-destun gweithredu Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Cynllunio (Cymru) 2015.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn iddo ymateb i sylwadau pellach y deisebydd.
Datganodd William Powell y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae’n gefnogwr cofrestredig ymgyrch Achub Ysgolion Powys ac yn cymryd rhan weithgar yn un o’i his-ymgyrchoedd.
Datganodd Russell George y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae’n aelod o Gyngor Sir Powys.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:
· ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am ei sylwadau ar y wybodaeth ychwanegol a chwestiynau a godwyd gan y deisebydd, a hefyd pam nad yw Llywodraeth Cymru yn casglu nac yn cadw data ar symudiadau disgyblion dros ffin Cymru/Lloegr; ac
· anfon manylion y ddeiseb ymlaen at y Pwyllgor sy’n gyfrifol am graffu ar y Bil Llywodraeth Leol (Cymru) pan gaiff ei gyflwyno, er mwyn iddynt allu ystyried y materion a godwyd.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:
· ysgrifennu eto at CBAC yn gofyn am yr ymateb sydd heb gyrraedd ynghylch gohebiaeth flaenorol;
· ysgrifennu at CLlLC i ofyn am wybodaeth am sut y mae awdurdodau lleol yn bwrw ymlaen ag argymhellion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Wasanaethau Cerdd; ac
· ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn iddo ymateb i sylwadau pellach y deisebwyr a hefyd y sail dros ei benderfyniad i beidio â defnyddio rhai o’r arian sydd ar gael i ddiogelu darpariaeth gerddoriaeth mewn ysgolion.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:
· ofyn am farn y Gweinidog ar sylwadau pellach y deisebydd; a
· gofyn am grynodeb o’r gwaith a wnaed eisoes i lywio ystyriaeth y Pwyllgor nesaf.
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i’r Gweinidog roi gwybod i’r Pwyllgor neu ei olynydd am ei phenderfyniad terfynol ar y gorchymyn traffig arfaethedig ac, unwaith y bydd wedi dod i law, gellir cau’r ddeiseb gan ei bod yn nodi diwedd proses statudol.
Datganodd William Powell y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae’n un o sylfaenwyr y Grŵp Mynediad Llyfrgelloedd mewn Trefi Bychain.
Trafododd Aelodau ohebiaeth gan y deisebydd, a chan iddynt deimlo na allent wneud rhagor i fynd â'r ddeiseb yn ei blaen, cytunwyd i gau’r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:
· Aros am ymateb gan y Gweinidog a Chyfoeth Naturiol Cymru;
· Gofyn i’r Pwyllgor Amgylchedd nesaf ystyried y materion a godir gan y ddeiseb, neu, yn dibynnu ar eu hymateb;
· Gofyn i’r Pwyllgor nesaf i ystyried cynnal darn o waith ei hun ar y materion a nodwyd yn y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan y deisebydd, a chan iddynt deimlo na allent wneud rhagor i fynd â'r mater yn ei flaen, cytunwyd i gau'r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb gan y deisebydd a Julie Morgan AC, a chytunodd i gadw’r ddeiseb ar agor tan y bydd adolygiad RSPCA ar berchnogaeth cŵn cyfrifol wedi cael ei gyhoeddi.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:
· ofyn i’r Pwyllgor Iechyd nesaf ystyried y materion a nodwyd yn y ddeiseb ac i rannu gohebiaeth Byrddau Iechyd gyda nhw ac, yn dibynnu ar eu penderfyniad;
· cynghori’r Pwyllgor Deisebau nesaf gynnal darn byr o waith ar y mater.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth a chytunodd i ofyn i’r deisebydd am ei sylwadau.